Cart (0)

Croeso cynnes iawn i chi                  


 

 

 

 

 

 

 

 

a diolch am ymweld â’n gwefan. Gobeithio gwnewch chi fwynhau’r wybodaeth ynglÅ·n â hanes y Côr o amser cyffrous Ivor Sims yn y cychwyn cynta hyd at y presennol, ein gweithgareddau diweddara a’n cynlluniau arbennig ar gyfer y dyfodol. 

Mae yna gyfle ar ein gwefan i chi wrando ar ein cerddoriaeth ac os ydych chi’n hoff o’r hyn yr ydych yn ei glywed, pam na wnewch chi archebu rhai o’n CDs yn ein siop ar y we. Siop yma.

Os oes gennych chi ddiddordeb i ddod i un o’n cyngherddau, mae’r manylion i’w cael oddi wrth ein tudalen “Digwyddiadau” ac os ydych chi yn ymweld ag ardal Treforys o bryd i’w gilydd mae yna groeso mawr i chi i’n rihyrsals. Rydyn ni’n ymarfer ddwywaith yr wythnos, nos Sul a nos Fercher am 7 o’r gloch. Mwy o fanylion yma. 

Cofiwch ymweld â ni eto cyn bo hir a pheidiwch ag anghofio gadael neges ar ein tudalen gwestai. Cliciwch yma. Mae e’n braf bob amser cael clywed eich sylwadau. Os hoffech chi gysylltu â’r côr, cliciwch yma 

Diolch yn fawr eto am ymweld â ni. Pam na ddowch chi’n aelod o MOCSA yr un pryd i fod yn rhan o’n teulu enfawr? Cliciwch yma am fanylion 

Hwyl am y tro. 

Joy